English

Mae pobl ledled Gwynedd yn cofrestru - a wnewch chi ymuno â nhw?

Mae'r gyfraith yng Nghymru wedi newid - gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i chi gofrestru i bleidleisio.

Cyngor Gwynedd yw un o'r cynghorau cyntaf yng Nghymru i gofrestru miloedd o bobl yn uniongyrchol i bleidleisio, gan arbed amser a gwaith papur i chi. Mae gennych tan 31 Gorffennaf i ddweud wrthym a hoffech ein help. 

Hyd yn oed os nad ydych chi'n pleidleisio, gall cofrestru wella'ch sgôr credyd a'ch helpu i sicrhau morgais, car neu fenthyciad personol. Mae hefyd yn golygu y gallwch chi ddweud eich dweud ar faterion sy'n effeithio ar eich cymuned mewn etholiadau lleol a Senedd.

Ymunwch â 90% o bobl sydd eisoes wedi cofrestru ledled Gwynedd. Llenwch y ffurflen hon i ddechrau: